Cydlynydd Priodasau a Digwyddiadau
Diwrnodau/Oriau gwaith
Rhan-amser – 16 awr. Rhaid i chi fod y barod i weithio oriau hyblyg, gan gynnwys gwaith gyda’r hwyr ac ar benwythnosau, os yw’r calendr digwyddiadau yn gofyn am hynny.
Gwybodaeth am y rôl
Ar hyn o bryd, mae gennym swydd wag y mae angen ei llenwi ar unwaith yn y tîm Achlysuron a Digwyddiadau, sef swydd Swyddog Gweithredol Datblygu Busnes, Achlysuron a Digwyddiadau.
Byddwch yn adrodd i Gyfarwyddwr y Castell, ac yn gweithio’n agos gydag ef neu hi, i weithredu strategaeth gwerthiant ragweithiol ar gyfer y busnes Digwyddiadau Masnachol a Phriodasau.
Byddwch yn cefnogi’r tîm Achlysuron a Digwyddiadau cyfeillgar ac effeithlon, ac yn unigolyn sy’n
meddwl yn yr un ffordd â’r tîm ac sy’n frwdfrydig ynghylch digwyddiadau a hanes y castell.
Eich her chi fydd marchnata, gwerthu a hyrwyddo’r arlwy Achlysuron a Digwyddiadau a Phriodasau yn rhagweithiol, a meithrin perthynas ag eraill (asiantau sy’n rheoli digwyddiadau, y rheiny sy’n dod o hyd i safleoedd a chynllunwyr priodasau), er mwyn cynyddu busnes newydd ac annog cwsmeriaid i ddychwelyd i’r castell gyda’u busnes.
Byddwch yn defnyddio’ch gwybodaeth am y diwydiant digwyddiadau ac yn cynnal ymchwil effeithlon ar drydydd partïon ac unigolion, gan ddefnyddio gwahanol lwyfannau mewn print ac ar-lein i ddod o hyd i ddarpar gwsmeriaid newydd, cysylltiadau a marchnadoedd newydd posibl. Yn ychwanegol at hyn, byddwch yn cefnogi Cyfarwyddwr y Castell yn barhaus i adnabod cyfleoedd masnachol newydd ac i greu cynnyrch newydd mewn ymateb i alwadau’r diwydiant. Mae’r rôl hon yn ymwneud â chyfathrebu cymaint â threfnu; disgwylir i chi gynrychioli Castell Aberteifi yn sioeau masnach y diwydiant ac mewn digwyddiadau rhwydweithio, a disgwylir i chi hefyd feithrin perthynas weithio gryf gyda phob adran.
Amdanoch chi
Mae gennych brofiad o werthiant rhagweithiol ac ymatebol mewn amgylchedd 4* neu 5*. Bydd gennych wybodaeth am y diwydiant digwyddiadau, a dealltwriaeth ohono, a byddwch yn unigolyn sy’n gallu ei ysgogi ei hun ac sy’n meddu ar sgiliau cyfathrebu a rhwydweithio cryf. Byddwch yn gallu gweithio ar eich menter eich hun, a rhaid eich bod yn hyblyg ac yn gallu addasu. Byddwch yn un sy’n gweithio’n dda fel aelod o dîm ac sy’n frwdfrydig iawn dros ddigwyddiadau, a bydd gennych ddiddordeb mewn hanes a stori unigryw Castell Aberteifi. Mae profiad o weithio mewn sefydliad tebyg, gydag arlwywyr allanol, yn ddymunol, yn ogystal â phrofiad o gynllunio a chydlynu priodasau.
Yn olaf, rhaid eich bod yn barod i weithio oriau hyblyg, gan gynnwys gwaith gyda’r hwyr ac ar benwythnosau, os yw’r calendr digwyddiadau’n gofyn am hynny.
Mae’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol. Cyflog: £16,000 y flwyddyn
PDF Swydd Ddisgrifiad:
Cydlynydd Priodasau a Digwyddiadau – Swydd Ddisgrifiad
Dyddiad Cai: 8fed Awst
I geisio am y swydd, danfonwch CV a llythyr clawr I Jac Davies, Cyfarwyddwr y Castell – [email protected]