Gallwn gynnal digwyddiadau yma hefyd, yn cynnwys digwyddiadau corfforaethol. Bydd yn brofiad unigryw i’ch gwesteion.
Mae’r gefnlen ysblennydd yng Nghastell Aberteifi yn eich atgoffa o’i 900 mlynedd o hanes – manteisiwch ar ein hystafelloedd cyfarfod a chynadledda i danio’ch dychymyg.
Mae wi-fi am ddim ar gael ym mhob un o'n hystafelloedd corfforaethol cyfforddus o'r radd flaenaf.
P'un a ydych yn trefnu cyfarfod busnes neu ddigwyddiad i gleientiaid, mae gennym ystod eang o ystafelloedd pwrpasol sy'n addas ar gyfer pob achlysur.
Llogwch un o’r llefydd hyn yng Nghastell Aberteifi, i gynnal eich cynhadledd neu eich digwyddiad.
Ydych chi'n trefnu priodas? Ewch i'n tudalen ar briodasau.