Byddwch yn barod am wyliau’r haf yng Nghastell Aberteifi!
Mae digon o hwyl a sbri i gadw’r ifanc a theuluoedd yn brysur yn y castell. Yn ogystal â’r gemau awyr agored arferol, llwybrau, cwisiau a gwisgo i fyny, mae gweithgareddau arbennig eraill yn digwydd yn y castell yn ystod yr haf yma.
Ar ddydd Mawrth, Gorffennaf 25, bydd Castell Aberteifi yn ymuno â Gŵyl eang y DU sef Gŵyl Archeoleg gyda sesiwn ymarferol o 2pm i 4pm. Dewch draw i gael golwg mwy craff ar rai o’r 9,000 o ddarganfyddiadau sydd wedi eu twrio ar y safle a dewch yn agos i hanes!
Bydd y castell yn cynnal sesiynau crefft wythnosol o 2pm i 4pm i blant pob dydd Mawrth yn dechrau ar Orffennaf 25 ac yn parhau fyny hyd at Awst 29. Bydd pawb yn cael mynd â rhywbeth adref gyda hwy! Y gost yw £2 y plentyn.
Bydd hefyd cyfle wythnosol i gael cip olwg ar seler ganoloesol y castell yn dechrau ar Orffennaf 28 i Awst 25 o hanner dydd tan 2pm. Bydd tair taith pob dydd Gwener am hanner dydd, 12.45pm a 1.30pm. Mae llefydd yn gyfyngedig a rhaid archebu lle. Bydd hefyd teithiau tywys o’r castell pob dydd Mercher yn ystod gwyliau’r haf am 2pm. Mae teithiau’r seler a’r castell yn cael eu cynnwys ym mhris mynediad y castell neu’n rhad ac am ddim i ddalwyr trwydded y castell.
Bydd Knights Templar yn mynd yn ôl mewn amser gydag ail-berfformiad canoloesol ar ddydd Sadwrn, Gorffennaf 29 - dewch ynghyd gyda’ch cleddyf a tharian a byddwch yn rhan o’r cyfan!
Mae Gŵyl Afon a Bwyd Aberteifi ar Awst 12 a bydd y castell unwaith yn rhagor yn ymuno gydag Adventure Beyond ac yn cynnal sesiynau abseilio oddi ar furiau’r castell. Y gost fydd £10 a fydd yn cynnwys mynediad i’r castell.
Ac ar Awst 23 bydd yn llwyfannu ein Diwrnod Eisteddfod gyntaf i ddathlu man cychwyn yr ŵyl yma ym 1176.
Daw tymor yr haf i ben gyda sioe Mewn Cymeriad Owain Glyndŵr ar Fedi 2.