Fe fydd gwaith yn dechrau wythnos hyn at fynedfa newydd i’r castell. Mae’r gwaith yn un o’r rhannau diwethaf o’r grant gwreiddiol i adfer y Castell.
Pwrpas y fynedfa newydd yw rhoi gwell brofiad o gyrraedd y Castell , i roi cysur fod ymwelwyr yn y lle iawn. Fe fydd y mynedfa newydd hefyd yn creu ardal gyhoeddus newydd drwy agor iard newydd i’r cyhoedd sydd at hyn o bryd tu ôl gat. Y gobaith yw fydd yr ardal hon yn cael eu defnyddio yn gyson, yn enwedig ym misoedd yr haf.
“Mae’r mynediad newydd yn hanfodol i ni i barhau i ddenu ymwelwyr i’r castell., fe fydd y fynedfa newydd hefyd yn gweld gwell arwyddion yn ogystal â gwell wybodaeth i’r cyhoedd am beth sydd ymlaen yn y castell. Fe fydd yr iard newydd hefyd yn lle deniadol, yn enwedig yr haf gyda gobaith am fwy o le i fwyta, yfed a falle ychydig o adloniant byw”. medd Jac Davies, Cyfarwyddwr y Castell
Mae disgwyl i’r gwaith orffen ym mis Ionawr.