Fe wnaeth y silff ben tân yma wedi ei gerfio â llaw ennill adran celf a chrefftau yn Eisteddfod Llanelli ym 1903.
Cafodd y silff ben tân ei gerfio yn Aberteifi gan Thomas Richard John a oedd yn deithiwr blasu te yng Ngorllewin Cymru yn yr 1890au hwyr.
Fe briododd yn Awst 1896 yn Eglwys y Santes Fair, Aberteifi, a pharhaodd yn y dref tan 1901. Roedd ganddo gariad tanbaid at waith coed a gwnaeth sawl eitem ond ystyriodd eu silff ben tân fel ei gampwaith.
Rhodd ei wyres Diana John, sydd bellach yn byw ym Mhorthcawl, y darn i’r gymdeithas leol amaeth CADDAM a wnaeth yn ei dro ei roddi i’r castell.
“Byddai fy nhad-cu wedi bod mor bles cael gwybod bod ei silff ben tân wedi ei ddychwelyd i Aberteifi ble yr oedd arfer cerfio,” dywedodd Miss John.