Mae Castell Aberteifi yn hen iawn ond mae ei weithgareddau diweddara’ yn gyfoes tu hwnt!
Datblygwyd gêm ryngweithiol newydd ar gyfer y Castell gan dîm o bobol leol. Mae’r gêm arbennig yma, i’w chwarae ar i-pad, yn ddwyieithog , unigryw a dim ond ar gael yng Nghastell Aberteifi!
Dyfeisiwyd y gêm gan y cynhyrchydd teledu a ffilm Carol Byrne Jones, gyda chymorth y Prifardd Ceri Wyn Jones, dylunydd ac animeiddwraig Tanya Griffiths a’r arbenigwr meddalwedd Steve Knight. Noddwyd y prosiect gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri.
Bu’r tîm yn gweithio am ychydig dros flwyddyn i ddatblygu ffordd o gyflwyno agweddau cystadleuol eisteddfod mewn dull hwylus a diddorol, nid yn unig i Gymry a oedd yn gyfarwydd â’r traddodiad, ond hefyd ymwelwyr a’r castell o wledydd eraill.
Dywed cydlynydd y castell, Sue Lewis: “ Wnaethom ddarganfod bod ymwelwyr ddim yn talu llawer o sylw i’r arddangosfa eisteddfodol. Felly oedd angen atyniad gwahanol a fyddai’n eu denu , cadw eu diddordeb a pwysicaf oll, cynnig blas o’r ynni creadigol a’r sbri sy’n ysbrydoli'r eisteddfod.”
Mae’r gêm, sydd wedi ei lleoli yn ystafell yr eisteddfod eisoes wedi creu argraff ffafriol, gyda’r ymwelwyr yn mwynhau chwarae'r ddwy gystadleuaeth, y farddol a’r gerddorol.
Profwyd y gemau gan blant ysgolion cynradd lleol, sef Aber-porth. Llew Jones, Penparc, Aberteifi a Llandudoch.
Dywedodd Carol: “ Mae adborth y plant – a’r oedolion a fentrodd y tasgau – wedi bod yn galonogol tu hwnt ac yn ddefnyddiol iawn . Da gwybod eu bod nhw eisiau mwy !!!”
Bydd lansiad swyddogol y gêm yn digwydd ar brynhawn ddydd Sadwrn, Mehefin 23 ar ôl datgan agoriad Gŵyl Fawr Aberteifi am 2.30 yp.
Llun: Ceri Wyn, Carol, Steve and Tanya gyda Luke, 7 oed, mab Steve a’r arbrofwr gyntaf!
O’r Chwith - Dde : Steve, Luke, Ceri Wyn, Carol, Tanya.