Cynnig Arbennig y Castell ar gyfer Trigolion Lleol
Gall trigolion lleol fwynhau un o brif atyniadau’r ardal, Castell Aberteifi, ar delerau arbennig cyn bo hir.
O Fawrth y 1af hyd at Ebrill y 15fed gall unrhyw oedolyn sydd yn byw yn ardal cod post SA43 brynu tocyn blwyddyn i’r castell am £5 yn unig sef chwarter y pris arferol a gostyngiad o £15.
Mae’r Castell sydd wedi croesawu dros 30,000 o ymwelwyr dros y flwyddyn ddiwethaf yn cyflwyno’r cynllun newydd hwn ar ddydd Gwyl Dewi eleni.
Bydd y cynnig o £5 am docyn ar gael hyd at Ebrill y 15fed sef dwy flynedd i’r diwrnod ers i’r Castell agor i’r cyhoedd am y tro cyntaf ar ei newydd wedd.
Yr oll sydd ei angen er mwyn hawlio’r cynnig arbennig hwn yw cyflwyno tystiolaeth o’ch enw, cyfeiriad gan gynnwys cod post a chyfeiriad e-bost i’r Dderbynfa yn y Castell rhwng Mawrth y 1af ac Ebrill y 15fed. Mae’r pris o £5 yn cynnwys cyfraniad Cymorth Rhodd sy’n golygu y byddwch nid yn unig yn cael bargen ond hefyd yn helpu’r castell i adennill dros £1 oddi wrth Cyllid y Wlad! Gallwch hefyd brynu tocyn blynyddol am £4.50 heb Gymorth Rhodd.
Mae’r tocyn blynyddol yn rhoi mynediad i’r castell i un oedolyn cynifer o weithiau ag y dymunwch dros gyfnod o flwyddyn gydag unrhyw blant yn eich cwmni yn cael mynediad am ddim– cyfle arbennig a fydd yn ddelfrydol i deuluoedd sydd am ymuno yn y diwrnodau gweithgaredd dros yr Haf (nid yw mynediad i weithgareddau Theatr Mwldan yn gynwysedig yn y pris).