Home » Clwb Telyn y Castell

Clwb Telyn y Castell

Up close shot of a harp.

Clwb Telyn y Castell

Pleser o'r mwyaf yw cyhoeddi y bydd y delyn, ein hofferyn cenedlaethol, unwaith eto yn rhan annatod o'r gweithgareddau a fydd yn cymryd lle yng Nghastell Aberteifi o fis Medi ymlaen eleni. Bydd Clwb Telyn y Castell yn cyfarfod bob pythefnos ar fore Sadwrn, pryd y cynhelir sesiynau i delynorion, nid yn unig yn arbenigo yng ngherddoriaeth ensemble telyn ond hefyd yn rhoi sylw i hanfodion canu'r delyn, megis techneg gadarn a'r ddawn o berfformio yn gyhoeddus. Byddwn yn rhoi dau gyngerdd cyhoeddus bob blwyddyn o fewn muriau'r castell, cyfle ardderchog felly i bob aelod o'r clwb gael y cyfle i berfformio fel rhan o Gôr Telyn mewn lleoliad ysblennydd,ond hefyd sydd â chysylltiad mor bwysig yn hanes y delyn yng Nghymru. Gwahoddir ceisiadau i fod yn aelod o'r clwb ac amgaeaf ffurflen gais ar gyfer hynny. Yn dilyn llwyddiant y clwb yn ei flwyddyn gyntaf,cynhelir dau ddosbarth yn ystod y bore. Bydd y dosbarth cyntaf ar gyfer dechreuwyr ac yn rhedeg o 9.30am tan 11.15am. Bydd yr ail ddosbarth ar gyfer telynorion mwy profiadol ac yn rhedeg o11.30am tan 1.30pm. ( Os nad ydych yn sicr pa ddosbarth fyddai'n addas i chi, gellwch gysylltu â mi drwy ebost: [email protected] neu ffôn symudol: 07879437631.) Cynhelir y sesiwn cyntaf ar Fedi'r 10fed. Bydd yn ofynnol i bob aelod o'r clwb i ddod â thelyn i bob sesiwn, a rydym yn ddiolchgar fod Telynau Teifi wedi cynnig darparu telynau ar gyfer y rhai sydd ddim yn perchen telyn. Yn naturiol dim ond nifer cyfyngedig fydd yn bosibl eu benthyg. Pris pob sesiwn fydd £18. Er mwyn sicrhau presenoldeb ardderchog gan bob aelod gofynnaf yn garedig i bob aelod dalu am hanner tymor ymlaen llaw. Y dyddiadau am y tymor cyntaf yw: Medi 10fed, Medi 24ain, Hydref 8fed, Hydref 22ain, Tachwedd 12fed, Tachwedd 26ain, ac fe gynhelir ein Cyngerdd Nadolig ar Ragfyr y 3ydd. Edrychaf ymlaen i dderbyn eich ffurflen gais ac at flwyddyn lwyddiannus arall yn y castell. Meinir Heulyn Ffurflen Gais/ Application Form
1
Enw / Name:………………………………………………………………………………………………………… Cyfeiriad / Address:………………………………………………………………………………………………… Cyfeiriad e-bost / e-mail address………………………………………………………………………………….... Rhif Ffôn / Tel no: ………………………………………………………………………………………………...... Dyddiad Geni / Date of Birth:………………………………… ………………………………………................... Enw eich Ysgol / Name of School:……………………………………………………………………..................... ……………………………………………………………………………………………………………….............. Enw eich Athro / Athrawes Telyn / Name of Harp Teacher:… ……………………………………………….... Gwobrau ac Arholiadau / Awards and Examinations:……………………………… ………………………….... ……………………………………………………………………………………………………………….............. Eich safon perfformio // Your standard of performance: ……………………………………………………………………………………………………………………......
Ydych chi yn siarad / deall cymraeg? // Do you speak / understand Welsh?: ! Y ! N
Y ffurflen gais i'w dychwelyd i/ Application form to be returned to: Meinir Heulyn, 4 Tyfica Rd, Pontypridd. CF37 2DA