Home » Cau’r siop am gwaith cynnal a chadw

Cau’r siop am gwaith cynnal a chadw

Fe fydd siop y Castell yn cau am bedwar diwrnod wythnos nesaf er mwyn cwblhau Gwaith cynnal a chadw er mwyn paratoi ar gyfer ail leoli darpariaeth gwybodaeth i dwristiaid. Fe fyddwn yn cau am 1yp ar Ddydd Sul 24ain Fawrth ac yn ail agor ar ddydd Gwener 28ain Fawrth.

Yn ystod y cyfnod yma fe fyddwn yn parhau i groesawi Ymwelwyr gan gynnal Teithiau tywys am 11yb a 2yp pob dydd yn ystod yr wythnos. Os hoffech ymweld â’r castell yn ystod y cyfnod yma Rydym yn cynghori i chi bwcio lle ar daith tywys mewn da bryd drwy ffonio (01239) 615131 neu drwy e-bostio [email protected].

Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra ond rydym yn hyderus y byddwch yn fodlon iawn gyda’r newidiadau.