Home » Castell Aberteifi yn dathlu ei dreftadaeth

Castell Aberteifi yn dathlu ei dreftadaeth

Wythnos o weithgareddau

Bydd Castell Aberteifi yn dathlu ei dreftadaeth ganoloesol ac yn coffáu'r Arglwydd Rhys arbennig gyda dwy wythnos o weithgareddau ym mis Ebrill.

 

Mae’r dathliadau’n cychwyn gyda diwrnod canoloesol ar ddydd Mercher, Ebrill 19 o 10am i 4pm a fydd yn cynnwys sioe byped Arglwydd Rhys, cerddoriaeth ganoloesol byw, stondinau crefft, arddangosiadau a gwisg ffansi.

 

Ar ddydd Gwener, Ebrill 21 bydd y castell yn agor ei ddrysau i’r seler ganoloesol am deithiau tywys - mae archebu lle yn hanfodol gan fod niferoedd yn gyfyngedig. Caiff y teithiau yma eu dilyn gan sgwrs am hanes canoloesol y castell gan y Tad Seamus Cunnane am 3pm yn ystafell y tŵr.

 

Bydd aelodau o fyddin ganoloesol The Knights Templar yn dangos eu sgiliau gornest canoloesol ar ddydd Sadwrn, Ebrill 22 gydag ysgol marchog arbennig i blant a dau berfformiad brwydr ganol dydd ac am 2.30pm.

 

Yna ar ddydd Gwener, Ebrill 28 - sef 820 o flynyddoedd ers marwolaeth yr Arglwydd  Rhys - bydd teithiau pellach o’r castell canoloesol a’i seler. Eto, mae archebu lle yn hanfodol. Yna bydd y Tad Cunnane yn siarad am hanes canoloesol y safle am 3pm.

 

Drwy gydol y bythefnos, bydd arddangosfa yn dangos hanes canoloesol y castell yn nhŵr y gegin - rhan o Dŷ Castle Green sy’n dyddio’n ôl i 1240.

 

Mae’r siop yn llawn llyfrau hanes canoloesol a gweithgareddau i blant tra bydd bwyty 1176 hefyd yn anrhydeddu'r Arglwydd Rhys gyda detholiad o brydau thema.

 

Mae mynediad i’r holl ddigwyddiadau’n rhad ac am ddim i ddalwyr tocyn y castell neu’n £5 oedolion, £3 plant.

 

Knights Battling at Cardigan Castle.