This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.

- This event has passed.
Taith Tywys Calan Gaeaf
29/10/2021 @ 7:00 pm - 31/10/2021 @ 9:00 pm
£5
Taith tywys arswydus o amgylch gerddi Castell Aberteifi!
Calan Gaeaf yma rydym wedi gwahodd Theatr Bydd Bychan i ymuno gyda ni i greu profiad hollol wahanol, yn cynnwys sbort gyda pherfformwyr ac effeithiau arbennig ac arswydus. Cerddwch ar hyd y llwybr dirgel newydd yma a fydd yn llawn golygfeydd dychrynllus i wneud i’ch esgyrn grynu! Dewch yn eich gwisg Calan Gaeaf! Bydd dewis o ddanteithion Calan Gaeaf, bwyd a diodydd ar ddiwedd eich taith.
Gall aelodau archebu tocynnau trwy’r app ar Ddydd Llun 4ydd Hydref 2021 a’r cyhoedd ar Ddydd Mercher 6ed Hydref 2021 trwy’r gwefan yma.
Fydd y llwybr ar agor 6yp – 9yp 29 – 31 Hydref 2021 – rhaid archebu tocynnau cyn dod. Mae un tocyn £5 yn darpar fynediad i un person. Mae’r tocyn yn caniatáu un daith o amgylch y llwybr. Fydd y daith yn tywys ac yn dechrau ar yr amser a dewiswyd pan rydych yn archebu’r tocyn. Mae yna 25 tocyn ar gael am bob amser cychwyn heb unrhyw gyfangiadau ar grŵp / swigen deuluol go fod y llwybr tu allan. Bydd y llwybr yn cymryd rhyw 15 i 20 munud i gwblhau. Mae’r holl lwybr tu allan heb unrhyw ddarn dan do, felly gwisgwch ddillad addas. Os mae’r tywydd yn hynod o wael fydd y digwyddiad yn cael ei ganslo ac arian yn cael i dalu nôl (heb gynnwys y ‘booking fee’). Mae’r llwybr wedi cynllunio i fod ychydig yn ofnus ond mewn ffasiwn sydd yn addas i’r holl deulu.