‘Wedi ei hysbrydoli gan arfordir Sir Benfro, ein hanes Celtaidd a phrofiadau bywyd. Mae Swyn yn sioe ddwyieithog sy’n adlewyrchu gweithio’r tir tra’n derbyn cynhaliaeth gan gymuned o fenywod.
Mae defodaeth, perlysiau, seremoniau a chylchoedd goleuni a thywyllwch yn cael eu plethu ar draws y straeon sy’n cael ei gwyntullu a’i rhannu drwy ddulliau syrcas,dawns, darlleniadau a chaneuon.
Crewyd a pherfformiwyd gan Collective Flight Syrcas cefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Bydd perfformiad gan y ganores a chyfansoddwriag o Gilgerran – Jodie Marie cyn y perfformiad o Swyn. Disgrifiwyd gwaith Jodie fel “Velvety and bitter sweet” gan The Guardian.
Nos Iau 29 Awst am 7.00 o’r gloch Drysau’n agor am 6.00 pm
Tocynnau i oedolion £10 Plant £6
Buy Tickets
- Sioe deuluol yw hon gydag amser rhedeg o tua 90 munud.
- Ni ddarperir seddi yn y digwyddiad hwn.
- Bydd toiledau ar gael ar y safle.
- Peidiwch â dod ag unrhyw alcohol neu wydr i’r safle.
- Mae lluniaeth ar gael i’w brynu – peidiwch â dod â bwyd na phicnics i’r safle.
- Peidiwch â dod ag ymbarelau gyda chi oherwydd gall y rhain gyfyngu ar yr hyn y gall eraill ei weld.
- Ni chaniateir ysmygu na fêpio ar y safle.
- Digwyddiad awyr agored yw hwn. Rydym yn cynghori mynychwyr i wisgo esgidiau addas a dod â siaced / dilledyn cynnes.
- Ceir mynediad gwastad i ddefnyddwyr cadair olwyn a’r rheiny sydd â symudedd cyfyngedig. Cysylltwch â thîm y Castell os oes gennych unrhyw anghenion symudedd penodol .
- Noder, nid oes unrhyw barcio ar y safle, a chynghorwn ein cwsmeriaid i ddefnyddio’r meysydd parcio talu ac arddangos cyhoeddus sydd o gwmpas y dref.
- Ar gyfer digwyddiadau, ni chaniateir cŵn ar y safle ac eithrio cŵn tywys
- Bydd safle’r Castell ar agor awr cyn amser cychwyn y perfformiad.
- Ni roddir ad-daliadau ar gyfer tocynnau.