Loading Events

« All Events

Band Pres Llareggub

Gorffennaf 27 @ 6:00 pm - 10:00 pm

£25

Band Pres Llareggub, o fynyddoedd bytholwyrdd Eryri, yw’r band pres cyntaf i ddwyn i siartio ar y BBC. Ni welwyd y fath beth o’r blaen yn hanes cerddoriaeth fodern Gymreig – dyma grŵp sydd yn cyfuno’r hen a newydd mewn ffordd gwbl wahanol.

Cysyniad gwreiddiol Owain Roberts yw Band Pres Llareggub wrth iddo hiraethu am adref tra’n byw yn Llundain bell. Yn tarddu o draddodiadau bandiau pres dalgylch Eryri, cewch glywed Band Pres Llareggub yn chwythu, gweiddi, neidio a dawnsio eu ffordd i’ch clustiau drwy gyfuno arddulliau i gyflwyno profiad egnïol a chofiadwy. Gan gadw gafael ar draddodiad eu cyndeidiau, mae’r band yn torri tir newydd wrth ymadael â chonfensiwn i wedd newydd ar fand pres. Gan gyfuno elfennau o Hip Hop, Drum’n’Bass, a Jazz New Orleans gydag emynau Cymreig ac anthemau Dafydd Iwan, byddwch yn siŵr o brofi rhywbeth newydd yn eu perfformiadau byw!

Tocynnau

Details

Date:
Gorffennaf 27
Time:
6:00 pm - 10:00 pm
Cost:
£25

Organizer

Cardigan Castle