Home » ‘Cadair yr Eisteddfod’ yn dod adref i Gastell Aberteifi

‘Cadair yr Eisteddfod’ yn dod adref i Gastell Aberteifi

Cerflun naw troedfedd yn cymryd ei le yng Nghastell Aberteifi, safle’r Eisteddfod gyntaf yn 1176.

 

Heddiw, (18 Mawrth), ar ôl mwy na blwyddyn o waith, bydd cerflun naw troedfedd ac ailgread o gadair Eisteddfod gyntaf Cymru yn cael ei symud i'w chartref parhaol newydd, Castell Aberteifi, safle'r Eisteddfod gyntaf yn 1176.

A hithau'n ganolog i draddodiad 'Cadeirio'r Bardd' sydd hyd heddiw yn dal yn rhan o'r Eisteddfod fodern, bydd y gadair yn cael ei gosod yn ofalus gan dîm o weithwyr ar ben y Tŵr Dwyreiniol, lle bydd yn rhoi cyfle unigryw i ymwelwyr gael tynnu lluniau. 

Cafodd y strwythur sydd wedi’i gerfio â llaw – ac sydd wedi'i wneud o lechen, efydd a derw lleol - ei gerflunio gan Paul Clarke, artist a cherfiwr coed o Aberteifi a dyma un o elfennau olaf y prosiect gwerth £12m i adfer Castell Aberteifi.

Mae'n cynnwys nifer o fanylion deongliadol, o ben llew cerfiedig sy’n seiliedig ar arfbais Dinefwr, i ddau geffyl efydd, sy’n cynrychioli diddordeb yr Arglwydd Llys ei hun mewn ceffylau; credir ei fod unwaith wedi rhoi nifer o geffylau i Frenin Harri II o’i gasgliad ei hun yr oedd ganddo feddwl mawr ohono fel ffordd o ymddiheuro.

Bydd ymwelwyr yn gallu gweld y gadair am y tro cyntaf pan fydd drysau'r Castell yn agor i'r cyhoedd ar 15 Ebrill, yn dilyn prosiect adfer sylweddol.

Y gadair fydd prif arteffact arddangosfa gyntaf y byd ar hanes yr Eisteddfod, a fydd yn datgelu hanes yr ŵyl ddiwylliannol eiconig, a'i pherthynas ag Aberteifi mewn geiriau, a thrwy arddangosfeydd gweledol, barddoniaeth a cherddoriaeth.  

Ymysg yr arteffactau eraill a fydd yn ymddangos yn yr arddangosfa y mae coron Eisteddfod Genedlaethol 1967, a gyflwynwyd i fardd coronog y flwyddyn honno, Eluned Phillips, yr unig fenyw i ennill dwy goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol, yn ogystal â thocynnau, rhaglenni a phosteri o wahanol Eisteddfodau yn dyddio'n ôl i'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.  

Roedd yr hanesydd Glen Johnson, sydd wedi treulio 30 mlynedd yn astudio treftadaeth unigryw’r safle, yn croesawu’r ffaith bod y Gadair Eisteddfodol hon yn dychwelyd i fan geni'r ŵyl.

Meddai: “Y gadair yw prif symbol traddodiad Eisteddfodol hoff Cymru, ac ni allaf feddwl am le gwell i’r cerflun hwn na Chastell Aberteifi. 

"Dyma lle cynhaliwyd yr Eisteddfod gyntaf yn 1176, pan ddaeth beirdd a cherddorion o bob rhan o'r wlad ynghyd i gystadlu am le ar y sedd wreiddiol, a oedd wedi'i gosod wrth fwrdd yr Arglwydd Rhys. 

“Mae’r darn gorffenedig wedi golygu llawer iawn o waith a chrefftwaith arbenigwr ac mae hynny i'w weld. Mae'r manylion hanesyddol, o lew Dinefwr i gi’r llys Canoloesol sy’n gorwedd oddi tano, yn wych. Byddai’r Arglwydd Rhys yn falch iawn!”

Mae dyfodiad y gadair yn garreg filltir arwyddocaol i’r ardal leol, sydd wedi aros am ganrifoedd i allu dathlu’n iawn ei rôl yn llunio diwylliant Cymru. 

Dywedodd Cris Tomos, Cyfarwyddwr y Castell: “Rydym wrth ein bodd yn gallu croesawu’r gadair adref i Gastell Aberteifi, lle bydd pobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd yn gallu'i mwynhau.

“A’r castell ar fin hagor ei drysau, dyma'r tro cyntaf y bydd hanes diddorol y safle ar gael i'r cyhoedd, ac mae dyfodiad y gadair yn golygu ein bod un cam yn nes at allu dangos i’r byd y rhan a fu gan Aberteifi a’i chastell 900 oed yn nechreuad diwylliant Cymru.”   

Daeth y safle hanesyddol adfeiliedig i berchnogaeth gyhoeddus 12 mlynedd yn ôl, yn dilyn degawd o lobio a chodi arian dan arweiniad Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladau Cadwgan (CBPT) a'i gwirfoddolwyr.

Ers hynny, mae’r adeilad rhestredig Gradd 1 wedi bod yn rhan o brosiect ailddatblygu enfawr i’w achub o ddifancoll.  

Y gobaith yw y bydd y Castell yn dod yn un o atyniadau twristiaeth mwyaf poblogaidd gorllewin Cymru pan fydd yn agor y gwanwyn hwn, gan ddenu o leiaf 33,000 o ymwelwyr yn y flwyddyn gyntaf a dwyn manteision economaidd sylweddol i Aberteifi a'r ardal ehangach. 

Ewch i www.castellaberteifi.com, chwiliwch am Gastell Aberteifi ar Facebook neu dilynwch Twitter i gael y wybodaeth ddiweddaraf.