Gan ddathlu ein hawl i enwogrwydd fel man geni’r Eisteddfod, dyma yw’r arddangosfa barhaol gyntaf am stori’r Eisteddfod unrhyw le yn y byd!
Mae’r arddangosfa yn adrodd y stori am yr Eisteddfod Genedlaethol, Ryngwladol a lleol drwy eiriau, delweddau, barddoniaeth a cherddoriaeth.
Gall ymwelwyr hefyd weld arddangosfeydd gweledol, yn cynnwys cadair yr Eisteddfod, coron a nifer eraill o arddangosfeydd sydd prin eu gweld gan y cyhoedd yn agos.