Yr hanesydd lleol, Glen Johnson, yn rhannu rhai o gyfrinachau’r safle
Wrth i gam olaf gwaith adfer Castell Aberteifi gychwyn, mae’r ymddiriedolwr sydd newydd gael ei benodi a'r hanesydd lleol, Glen Johnson, yn rhannu rhai o gyfrinachau’r safle.
“Mae’n ddigon tebyg i gwblhau jig-so diddiwedd. Rydych yn gwybod na welwch mo’r darlun llawn byth ond weithiau fe ddowch ar draws darn allweddol ac mae pethau'n dod yn gliriach a chliriach drwy'r amser."
Dyma eiriau’r hanesydd Glen Johnson sydd wedi treulio’r 30 mlynedd diwethaf yn datgloi'r dirgelion sy’n guddiedig o fewn muriau Castell Aberteifi.
A mis diwethaf (mis Tachwedd), penodwyd Mr Johnson, sy'n dal i fyw gerllaw yn Llandudoch, yn aelod o fwrdd ymddiriedolwyr Ymddriedolaeth Cadwraeth Adeiladau Cadwgan (CBPT) - yr elusen y tu ôl i brosiect adfer y castell, i helpu i ddod â hanes y safle yn fyw.
Dechreuodd ei ddiddordeb yn hanes y safle 900 oed pan gafodd brosiect i’w gyflawni yn yr ysgol pan oedd yn 14 oed.
“Dewisodd mwyafrif y plant bynciau yr oedd llawer o ymchwil wedi’i gwneud arnynt yn barod fel y Tuduriaid a’r Rhyfel Byd Cyntaf,” meddai Mr Johnson.
“Hyd yn oed bryd hynny roedd gen i ddiddordeb mewn hanes ac yn awyddus i gael mwy o her. Rwy’n cofio meddwl 'mae pawb yn Aberteifi yn gwybod am y castell ond does neb i ddweud y gwir yn gwybod dim am y castell'."
Ar y pryd, roedd Castell Aberteifi yn dal yn gartref i’r perchennog preifat olaf – Miss Barbara Wood.
“Dywedodd bachgen a oedd mewn dosbarth uwch yn yr ysgol ei fod wedi dod yn ffrindiau gyda Miss Wood; doedd ei hiechyd ddim yn dda iawn a byddai’n ei helpu drwy gynnig teithiau tywys o gwmpas y safle. Trefnodd i mi gael mynd yno.
“1984 oedd y tro cyntaf imi gerdded drwy’r drysau ac rwy’n dal i gael fy nghyfareddu gan y safle 30 mlynedd yn ddiweddarach.”
Cafodd Mr Johnson ei gyflwyno i Miss Wood yn ddiweddarach, ac yn ystod gwanwyn 1985 gofynnodd iddo ddod yn ‘dywysydd’ y safle.
“Roedd hynny’n fraint fawr. Daeth grŵp bach o ffrindiau a minnau yn ‘Wirfoddolwyr Castell Aberteifi’ a byddem yn treulio ein hamser rhydd yn gofalu am y safle, gan glirio'r gerddi a oedd wedi tyfu'n wyllt ac yn y blaen.
“Gallaf ddweud â'm llaw ar fy nghalon, hyd yn oed 30 mlynedd yn ddiweddarach, mai'r dyddiau hynny oedd rhai o ddyddiau mwyaf rhyfedd, cofiadwy a diddorol fy mywyd."
Yn 1987, ac yntau’n ddim ond 17 oed, cyhoeddodd Mr Johnson ei lyfr cyntaf, 'The Forgotten Castle of Cardigan’. Wedyn gadawodd am y brifysgol ond ni chollodd ddiddordeb o gwbl yn y safle.
Byddai’n aml yn darlithio am ei hanes, ac mi ysgrifennodd ddogfen drafod hyd yn oed pan oedd yn aelod o Gyngor Tref Aberteifi yn 1996.
Flynyddoedd yn ddiweddarach, defnyddiwyd y ddogfen hon gan swyddogion Cyngor Sir Ceredigion fel dadl o blaid cadw'r safle pan oedd ei ddyfodol yn cael ei ystyried.
“Roedd yn fraint cael rhan fach yn y trafodaethau a achubodd y castell,” meddai Mr Johnson.
“Cafodd y castell ei achub gan gast o filoedd ac rwy'n falch o fod wedi gwneud fy rhan ar y cyd â phawb arall."
Yn 2003, yn dilyn ymgyrch yn y gymuned a gafodd ei lansio a'i chefnogi gan y papur newydd lleol, prynwyd y castell gan yr awdurdod lleol a chymerwyd y camau cyntaf tuag at ei adnewyddu.
Diolch i gyllid gan bartneriaid a chefnogaeth y gymuned leol, llwyddodd Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladau Cadwgan i sicrhau'r £11 miliwn o fuddsoddiad a oedd yn ofynnol i adfer y castell, gwaith sydd i fod i gael ei gwblhau yn ystod tymor y gwanwyn 2015.
Yn ogystal ag adfer yr adeilad i’w hen ogoniant, bydd y prosiect hefyd yn darparu canolfan arddangos barhaol, gardd ddigwyddiadau, bwyty, llety moethus a lleoliad ar gyfer priodasau, i gyd er mwyn sicrhau dyfodol cynaliadwy’r safle.
Disgwylir i Gastell Aberteifi ddod yn un o’r prif atyniadau i ymwelwyr yng Nghymru. Y nod yw denu dros 30,000 o ymwelwyr yn y flwyddyn gyntaf, gan roi hwb sylweddol i fusnesau lleol a'r economi ehangach.
“Mae’r cyfan yn gyffrous iawn, ac nid oeddem bob amser yn siŵr a fyddai hyn yn digwydd byth." meddai Mr Johnson.
“Ychydig funudau’n ôl dangoswyd llun o’r lawnt newydd i mi. Roedd gweld y gwelltglas â’r tŷ wedi’i adnewyddu yn y cefndir yn brofiad emosiynol. Allwn i ddim ond meddwl, ‘ie mae’r lle hwn yn ôl!’”