Diolch i garedigrwydd Mrs Mag Williams
Bellach mae gan Gastell Aberteifi ddiffibriliwr diolch i garedigrwydd Mrs Mag Williams, Aberteifi a fu'n dathlu ei phenblwydd yn 95 oed trwy godi arian i Calonnau Cymru.
Rhoddodd yr elusen £450 tuag at yr arian a godwyd a chyflwynodd Mrs Williams y diffibriliwr i'r Castell yr wythnos hon.
Yn y llun gwelir ysgrifennydd Cadwgan, Joff Timms, a swyddog cyfleusterau'r Castell, Sue Lewis, yn derbyn y diffibriliwr oddi wrth Mrs Williams gyda Sharon Owen, Julian Evans a Meinir Lewis, Calonnau Cymru.
Dywedodd Mrs Williams: “Diolch i bawb am wneud fy mhenblwydd yn hwyl ac am roi yn hael i Calonnau Cymru. Diolch yn fawr i chi gyd.”
Caiff y diffibriliwr ei gadw ym Mwyty 1176 a bydd staff a gwirfoddolwyr yn derbyn hyfforddiant i'w ddefnyddio.