Abseilio i lawr waliau Castell Aberteifi
Beth am ymuno gydag anturiaethau led led y wlad trwy abseilio i lawr waliau Castell Aberteifi!
Mae’r castell, mewn partneriaeth a chwmni lleol gweithgaredd awyr agored Cardigan Bay Active, yn cynnal penwythnos abseilio, Awst 6-7, fel rhan o Flwyddyn Antur Croeso Cymru 2016.
Am £10 gallwch fwynhau diwrnod yn y Castell ac abseilio‘r waliau dan gyfarwyddid Cardigan Bay Active.
Mae’n rhaid archebu lle – ffoniwch y castell ar 01239 615131 neu e-bostiwch [email protected].