Castell Aberteifi yn dathlu blwyddyn ers agoriad
Bydd Castell Aberteifi yn dathlu blwyddyn ers yr agoriad swyddogol ym mis Ebrill eleni. I nodi’r achlysur ac i ddiolch i bobl lleol am eu cefnogaeth yr ydym wedi trefnu cynnig arbennig i glybiau a chymdeithasau lleol.
Beth am gynnal eich cinio blynyddol yn y Castell – o wneud hynny cewch ostyngiad o 10% ar gyfanswm cost y bwyd ynghyd a diod am ddim i’ch aelodau wrth gyrraedd.
Gall Bwyty 1176 ddal 60 o bobl tra bod y Pafiliwn yn dal 120 o bobl. Gallwn gynnig taith tywys am ddim i chi hefyd.
Mae’r Prif Gogydd David Coates yn medru paratoi ystod eang o fwydlenni a phrydau at ddant pawb. I drefnu noson ac i fanteisio ar y cynnig arbennig hwn cysylltwch a David ar 01239 562002 neu e-bostiwch [email protected]
Edrychwn ymlaen at gael eich croesawu i’r castell.