Loading Events

« All Events

  • This event has passed.

Not a Normal Midwinter’s Dream – Lantern Trail

19/02/2021 @ 5:00 pm - 21/02/2021 @ 8:30 pm

£30

CYMRAEG (Please scroll down for the English version)

*NODYN: DIGWYDDIAD WEDI OHIRIO O RAGFYR I CHWEFROR*
Bydd Castell Aberteifi yn cynnal digwyddiad unigryw ym mis Chwefror, sef Llwybr Llusernau hudolus y Gaeaf ar dir y castell. Mae Aberteifi wedi mwynhau Parêd Llusernau Enfawr bob mis Rhagfyr ers 2016, ond am na fydd hwnnw’n cael ei gynnal eleni, bydd llwybr llusernau enfawr ‘Hwyl yr Ŵyl o Hyd’ yn cynnig profiad hudolus arall i blant ac oedolion fel ei gilydd.

Wedi’i drefnu gan Theatr Byd Bychan ar y cyd â’r Castell, a’i gefnogi gan Gyngor Tref Aberteifi, bydd y Llwybr yn siwrnai awyr agored swynol yn seiliedig ar wyrth y gaeaf yn llawn o ryfeddodau a gosodiadau, fel llusernau’n tywynnu, cerddoriaeth, syrcas awyr, perfformwyr a rhagor! Mae’n siŵr y bydd profiad Castell Aberteifi o gynnal digwyddiadau awyr agored a chroesawu’r dref yn ychwanegu at gyffro a phoblogrwydd disgwyliedig y Llwybr newydd hwn.

Bydd y digwyddiad yn rhedeg rhwng 5yp a 8:30yp ar nosweithiau’r 19, 20 a 21 o Chwefror 2021. Wrth archebu, fe fyddwch yn cael amser dechrau. Bydd yna 3 grŵp yn dechrau ar yr un amser; bydd rhaid i’r grwpiau hyn cadw pellter cymdeithasol rhwng ei gilydd. Bydd rhaid i bawb dros 11 mlwydd oed gwisgo mwgwd wrth fynd o gwmpas y Llwybr.

Mae archebu tocynnau blaenllaw yn angenrheidiol. Bydd tocynnau ar werth i’r cyhoedd 20 Tachwedd 2020 ymlaen. Mae pob tocyn yn archebu slot amser i grŵp o’r un cartref / swigen lan at 9 o bobol. Bydd Aelodau’r Castell yn medru archebu tocynnau o 16 Tachwedd 2020 ymlaen. I archebu tocynnau defnyddiwch y linc isod i brynu ar lein (mae yna gost ychwanegol o £2.50 i fwcio ar-lein ac na ellir ei ad-dalu) neu ffoniwch Swyddfa’r Castell rhwng 9yb a 5yp ar 01239 615131.

*Diolch i Theatr Byd Bychan am y lluniau*

Book now


ENGLISH

*NOTE:EVENT DELAYED FROM DECEMBER TO FEBRUARY*
Cardigan Castle will host a unique event this February with a magical Winter Lantern Trail to be held in the grounds. In the absence of the Giant Lantern Parade, which Cardigan has enjoyed every December since 2016, the ‘Not a Normal Midwinter’s Dream’ giant lantern trail will provide an alternative magical experience for children and adults alike.

The Trail will be an enchanting outdoor journey based on a winter dreamscape full of surprises and installations with glowing lanterns, music, aerial circus, performers and more! Cardigan Castle’s experience of hosting outdoor events and welcoming the town will no doubt add to the excitement and expected popularity of this new Trail. The event has been organised by Small World Theatre in partnership with the Castle and supported by Cardigan Town Council.

This event will run each night between 5pm and 8:30pm on the 19th, 20th and 21st of February 2021. Groups will be given a starting time slot on booking, with up to three groups starting at each start time; these three groups will need to socially distance (2m) from each other. Persons over 11 years old will be required to wear a mask whilst on the trail.

Pre-booking is essential. Bookings open from the 20th of November 2020 for families/ bubble groups of up to 9 people per group. Booking for members opens on Monday the 16th of November 2020. To book please use the link below to buy online (online purchases incur a £2.50 non-refundable booking fee) or phone the Castle Office on 01239 615131 between 9am and 5pm.

Book now

*Photographs provided courtesy of Small World Theatre.*

Details

Start:
19/02/2021 @ 5:00 pm
End:
21/02/2021 @ 8:30 pm
Cost:
£30