HYRWYDDIR AR Y CYD GAN MWLDAN + CASTELL ABERTEIFI |
Mae Ysgol Celfyddydau Perfformio Dynamix nôl!! Maen nhw wrth eu bodd yn dod â Matilda, Sioe Fawr y West End i Gastell Aberteifi yn haf 2022! Mae’r stori’n dilyn clasur Roald Dahl am yr hynod alluog Matilda Wormwood wrth iddi ddechrau ei bywyd ysgol i ffwrdd o’i rhieni creulon ac o dan ofal yr hoffus Miss Honey a’r ofnadwy Miss Trunchbull! Ymunwch â Matilda ynghyd â holl fyfyrwyr Ysgol Celfyddydau Perfformio Dynamix am noson o adloniant i bawb. Yn llawn dop o ddawnsiau egnïol a chaneuon bachog, caiff plant ac oedolion fel ei gilydd eu syfrdanu gan stori’r ferch fach arbennig gyda dychymyg anghyffredin.
£10 Oedolyn / £8 Plentyn – Sioeau ar Sadwrn 9fed a Sul 10fed Gorffenaf 2022.